Blasau a Llenwadau
Y blasau mwyaf poblogaidd yw’r spwnj fictoria, y ffefryn traddodiadol gyda sbwnj fanila a jam mafon yn ogystal â’r sbwnj siocled sydd wedi’i lenwi ag eisin siocled cyfoethog- mae’n berffaith i’r rhai sy’n addoli siocled!
Awyddus i flasu rhywbeth gwahanol? Mae’r amrywiaeth o flasau yn cynnwys; caramel hallt, siocled oren, lemwn, lemwn ac ysgawen, lemwn a hadau pabi, siocled gwyn, siocled gwyn a mafon, melfed coch, cacen foron, oren, banana, coffi a banoffi.
Mae cacen ffrwythau yn ffefryn gan ei fod yn llawn rhesins a cheirios, ac mae wed’i orchuddio gan farsipan ac eisin.
Mae blasau, llenwadau ac eisin gwahanol ar gael ar gais- Byddwch yn greadigol!